Clive Granger
| dateformat = dmy}}Economegydd o Loegr yw Syr Clive William John Granger (4 Medi 1934 – 27 Mai 2009) Fe'i ganwyd yn Abertawe, Cymru, ond magwyd yn Lloegr. Bu'n Athro ym Mhrifysgol California, San Diego. Enillodd (gyda Robert F. Engle o Efrog Newydd) y wobr Nobel yn 2003 am ei waith ym myd economeg.
Roedd yn fab i Edward John Granger ac Evelyn Granger a symudodd y teulu pan oedd yn ifanc i Lincoln, Gaergrawnt ac yna i Nottingham ble'r aeth i'r brifysgol i astudio mathemateg a chafodd ei wneud yn ddarlithydd yno, ac yntau'n ddim ond 24 oed. Darparwyd gan Wikipedia